Content

Office Banner
 

Meet the Wellbeing through Work Team

 
Cwrdd â Thîm Lles drwy Waith
Cwrdd â Thîm Lles drwy Waith

Mae tîm Lles drwy Waith yn cynnwys grwp o bobl a chanddynt ystod amrywiol o sgiliau. Cliciwch ar y darlun i gwrdd â’r tîm


23/05/2013

Partners

 
Partneriaid
Partneriaid

Caiff y prosiect Lles drwy Waith ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Remploy, caiff ei reoli gan Remploy ac Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, a’i gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

  Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am ddarparu gofal sylfaenol, a gwasanaethau ysbyty gofal eilaidd integredig yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gan y tîm darparu brofiad helaeth o gynnig ystod eang o ymyraethau i fodloni anghenion preswylwyr lleol.

Click here to visit Remploy

 

 

Remploy yw prif ddarparwr gwasanaethau cyflogaeth y DU ac mae’n arbenigo mewn helpu unigolion a chanddynt rwystrau rhag gweithio. Ewch i wefan Remploy i gael rhagor o wybodaeth.

 

Click here to visit NLIAH

 

 Mae Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn darparu cymorth strategol arweiniol i GIG Cymru. Mae Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn darparu arweiniad sy’n arwain at arloesi a gwella gwasanaethau yn barhaus. Ewch i wefan Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd  i gael rhagor o wybodaeth.

ESF Logo

 

 Gwnaethpwyd y prosiect Lles drwy Waith yn bosibl gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeirio Ewropeaidd yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.

23/05/2013

 

About Wellbeing through Work

 
Ynghylch Lles drwy Waith
Ynghylch Lles drwy Waith

Mae Remploy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd yn cydweithio ar y prosiect Lles drwy Waith i ddarparu gwasanaeth ymyrraeth gynnar a luniwyd i wella iechyd a lles pobl o oed gwaith.

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeirio Ewropeaidd yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.
Nod Lles drwy Waith yw darparu ystod o ymyraethau sy’n cynyddu’r cymorth sydd ar gael i unigolion, cyflogwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu swydd i barhau mewn gwaith. 

Mae gan y prosiect ddau brif faes gweithgaredd:

  • Cefnogi unigolion i aros mewn gwaith
  • Gwella gwaith a gweithleoedd


Pam mae Lles drwy Waith yn bwysig?
 
Yn 2006, collwyd tua 175 miliwn o ddiwrnodau gwaith o achos salwch. Mae hyn yn cyfateb i saith diwrnod ar gyfer pob unigolyn sy’n gweithio. Daeth yr adroddiad ‘Ydy gwaith yn dda ar gyfer eich iechyd a’ch lles?’ i'r casgliad bod gwaith yn dda i iechyd a lles corfforol a meddyliol unigolyn.

Dangosodd y dylai gwaith fod yn ‘waith da’ sy’n ddiogel, yn iach ac yn darparu ychydig o reolaeth i’r unigolyn dros y ffordd y gwneir gwaith, gan roi ymdeimlad o hunanwerth. Ar y cyfan, roedd yn dangos bod gweithio yn well i unigolyn nag effeithiau absenoldeb salwch.

Darllenwch am y sefydliadau sydd ynghlwm â rheoli’r prosiect isod:


www.remploy.co.uk

www.abm.wales.nhs.uk/
www.nliah.wales.nhs.uk

21/05/2013

Attachments

 
Wellbeing through Work Achievements Report
Wellbeing through Work Achievements Report
The First Twelve Months
21/01/2013

Learning paper 1 - 'From service model to delivery'
Learning paper 1 - 'From service model to delivery'
A learning paper telling you a bit more about the WtW project
05/04/2012

Learning paper 2 - 'Supporting Participants through Cognitive Behavioural Therapy'
Learning paper 2 - 'Supporting Participants through Cognitive Behavioural Therapy'
A paper containing information on the work being undertaken by the project to develop an online Cognitive Behavioural Therapy (CBT) tool.
05/04/2012

Papur Dysgu 1 - 'O Fodel Gwasanaeth i Gyflawni Gwasanaeth'
Papur Dysgu 1 - 'O Fodel Gwasanaeth i Gyflawni Gwasanaeth'
Papur dysgu sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y prosiect Lles drwy Waith
26/07/2012

Papur Dysgu 2 – 'Cefnogi Cyfranogwyr Trwy Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)’
Papur Dysgu 2 – 'Cefnogi Cyfranogwyr Trwy Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)’
Papur sy’n cynnwys gwybodaeth am y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y prosiect i ddatblygu offer Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein.
26/07/2012

Learning Paper 3 - Case Studies
Learning Paper 3 - Case Studies
Learning paper containing a set of case studies showcasing how participants who have engaged with Wellbeing through Work have improved their wellbeing
05/04/2012

Papur Dysgu 3 - 'Astudiaethau Achos'
Papur Dysgu 3 - 'Astudiaethau Achos'
Papur dysgu sy’n cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos y ffordd y mae cyfranogwyr sydd wedi ymgysylltu â Lles drwy Waith wedi gwella’u lles.
26/07/2012