Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
Gall ein tîm Lles drwy Waith helpu eich cleifion drwy asesu eu hiechyd ac unrhyw rwystr arall sy’n eu hatal rhag gweithio, eu cefnogi i aros yn y gwaith neu hwyluso’r broses o ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel ac mewn modd cynaliadwy.
Rydym yn cynnig:
- Rheolwr Achos ymroddgar
- Cymorth un i un o ran anghenion iechyd a chyflogaeth
- Mynediad at ystod o wasanaethau
- Cymorth am ddim i’ch claf neu ei gyflogwr.
Ymyrraeth gynnar ar gyfer eich cleifion
Mae creu cysylltiadau cadarnhaol rhwng gweithio ac iechyd yn sicrhau nad yw cyflyrau corfforol, seicolegol na chymdeithasol yn rhwystr i gael mynediad at fuddion gweithio. Ein bwriad yw gwella canlyniadau iechyd eich cleifion drwy gyflogaeth gynaliadwy a darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar er mwyn eu galluogi i barhau yn eu swydd.
Gall eich cleifion gael cymorth os ydynt yn:
• Byw ac/neu’n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu yn Abertawe ac yn
• Gweithio mewn sefydliad, neu’n
• Gwirfoddoli i sefydliad am 16 awr yr wythnos neu lai.
Cysylltwch â ni heddiw
Gallwch roi’r gwasanaeth yn bresgripsiwn i’ch claf drwy roi Ffurflen Gyfeirio Presgripsiwn.
I gael Pad Presgripsiwn, cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r rhif ffôn am ddim:
Neu, gall eich cleifion gysylltu â ni yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r rhif am ddim.
Mae deunyddiau cefnogi Lles drwy Waith ar gael i’w lawrlwytho drwy glicio ar y dogfennau isod.
16/05/2013